Tunisia, 2023

Wel mi oddi’n wyliau ymlaciol os dim byd arall…

Delfino Beach Resort, Hammamet

Pan oeddwn i a Joe yn cynllunio’n gwyliau nesaf, yr unig amod oedd mynd i rywle newydd, bach allan o’r bocs. Ond dwi’n meddwl bod ni wedi mentro rhy bell y tro yma…

Yn Calimera Delfino Beach Resort yn Hammamet oeddem ni’n aros, nôl ym mis Mehefin, 2023. Mae’r gwesty’n lyfli, efo digon o bethau i’w wneud fel ymarfer corff, sba lles ac adloniant bob nos. Resort mawr efo sawl pwll a sawl gweithgaredd ar gael, yn cynnwys gym lle oedd Joe yn gwario awran bob bore…booooring! Nesi lwyddo i ddarllen 3 nofel ar y trip yma, yn hollol wahanol i’n trip i Crete y flwyddyn cynt lle ‘ro ni rhy brysur i eistedd i lawr a darllen.

Gesi sioc wrth ddreifio o faes awyr Enfidha-Hammamet i’r gwesty. Dwi fel arfer yn dda am archwilio ardaloedd ar gyfer gwyliau dramor, ond wow gesi hwn yn anghywir! Yn ôl y we, mae Hammament yn le bywiog, ac wedi bod yn hot spot i dwristiaid ers y pumdegau. Mae’r realiti’n hollol gyferbyn (yn fy marn i). Dim ond unwaith wnaethom ni adael tir Delfino Beach, ac nid oeddwn yn teimlo’n hollol gyfforddus pan wnaethom.

Doedd dim llawer o ddewis o bethau i’w gwneud yn yr ardal trwy’r cwmni teithio, dim ond un gweithgaredd wnaethom sef trip hanner diwrnod i farchnad Nabeul. Mi oedd Nabeul yn fwrlwm o bobl, fel a ddisgwylir rili. Masnachwyr yn gwaeddi ac yn dyfalu cenhedlaeth pawb. “English” oedd pawb yn galw ni. Oni’n gwaeddi “Cymraeg!!” yn ôl arnyn nhw. Yn y diwedd, dim ond un darn bach o grochenwaith nesi brynu, a hwnnw yn bresant pen-blwydd i fy ffrind.

Nesi rili joio’r hotel. Lle gwych i ymlacio a bod yn ddiog am ddeg diwrnod! Oedd bob dydd yr un peth, a dim yn y ffordd ddrwg chwaith. Oedd bwyty Delfino’n cynnig gwledd o brydau pob dydd, ac oedd y staff yn garedig ac yn gymwynasgar.

Felly, nesi ddim ‘joio fama gymaint â llefydd erill, ella dylwn i wedi gwneud mwy o ymdrech i fynd allan o giatiau’r gwesty, neu ella dwi’n barnu’n rhy drwm oherwydd bod Crete wedi bod mor wych i ni.

English

Well it was relaxing if nothing else…

Delfino Beach Resort, Hammamet

When Joe and I were planning our next trip away, the only condition was to visit somewhere new and a little out of the box. But I think we ventured a bit too far this time…

We stayed at Calimera Delfino Beach Resort in Hammamet back in June, 2023. The resort is lovely, with enough things to do like sports, wellbeing spa and entertainment every night. It’s a big resort with a handful of pools and a lot of activities to do during the day, including a gym where Joe spent an hour every morning… boooooring! I managed to read 3 books on this trip, 3 more than I managed on our trip to Crete the year prior, we were too busy exploring!

I was shocked when driving through Hammamet from Enfidha-Hammamet airport to the resort. I’m usually quite good at researching areas before hand, but woah I got this one wrong! According to the internet, Hammamet is a lively place, and has been a hot spot for tourists since the 50’s. The reality is completely different (in my opinion). We only left the grounds once, and we didn’t feel completely comfortable when we did.

There wasn’t much choice of things to do in the area through the travel company, we only did one of the activities available which was the half day trip to Nabeul. It was just as expected at the market here, full of people. Traders shouting and guessing everyone’s nationality. “English” is what everyone was calling us. I was shouting “Welsh!!” back at them. In the end we only bought one piece of pottery, and that was for my friend’s birthday.

I really enjoyed the hotel. It was a great place to relax and be lazy for 10 days! Every day was the same, and not necessarily in the bad way either. Delfino’s restaurant offers a feast of different food daily, and the staff were nice enough.

So, I didn’t enjoy Tunisia as much as I did other places, maybe because we should’ve made more of an effort to venture out of the resort’s gates, or maybe I’m just judging too harshly because Crete the year before had been so good to us.

Leave a comment